Rhif y ddeiseb: P-06-1325

 

Teitl y ddeiseb: Gostwng y cyfyngiad cyflymder ar yr A5 drwy Glasfryn

 

Geiriad y ddeiseb:   Rydym yn galw am osod terfyn cyflymder o 30mya ar yr A5 drwy bentref Glasfryn fel mater o frys - cyn i rywun gael ei ladd.

Mae teuluoedd yn byw ar fin y ffordd beryglus yma. Mae busnesau yn cael eu rhedeg ar fin y ffordd ac mae amaethwyr a chontractwyr yn ei defnyddio bob dydd i gynnal busnesau.

Dros y blynyddoedd, bu nifer o ddamweiniau difrifol gan gynnwys un farwolaeth a sawl digwyddiad agos i ddamwain.  Mae hwn yn fater brys gan mai dim ond mater o amser ydi hi cyn y ceir digwyddiad difrifol arall.

 

 


1.        Y cefndir

Mae'r A5 yng Nglasfryn yn rhan o'r rhwydwaith cefnffyrdd. O ganlyniad, Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd, a’r awdurdod traffig sy’n gyfrifol am derfynau cyflymder ar y rhan hon o’r ffordd.

Y terfyn cyflymder drwy'r pentref ar hyn o bryd yw 60mya. Mae'n rhan o'r hyn a elwir yn anffurfiol yn "Driongl Evo", a gafodd yr enw oherwydd bod cylchgrawn EVO yn defnyddio'r rhan 20 milltir o’r ffordd i brofi ceir. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu cynllun diogelwch ffyrdd yn yr ardal. Roedd hyn yn cynnwys gosod camerâu cyflymder cyfartalog ar bob pen o'r A5 trwy Glasfryn. Fodd bynnag nid yw'r trigolion yn credu bod hyn yn ddigonol ac y dylid lleihau'r terfyn cyflymder.

Ar hyn o bryd mae terfynau cyflymder ar ffyrdd Cymru heblaw traffyrdd yn cael eu pennu gan ddefnyddio canllawiau a gyhoeddwyd yn 2009 a elwir yn Gosod Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn 2021. Mae hyn yn ymrwymo i adolygu'r dull o bennu terfynau cyflymder.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Yn ei lythyr at y Cadeirydd, dyddiedig 7 Mawrth, mae Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn dweud bod y terfyn cyflymder yn y pentref wedi cael ei adolygu’n ddiweddar gan ddefnyddio canllawiau 2009. Roedd hynny'n argymell dim newid.

Fodd bynnag, mae'n pwysleisio bod y canllawiau hyn yn cael eu hadolygu, ac yn cyfeirio at dudalen we y canllawiau sy'n pwysleisio yr hoffai Llywodraeth Cymru glywed barn ar yr adolygiad. Er nad yw'n cynnwys unrhyw fecanwaith ymateb ffurfiol.

Disgwylir i’r canllawiau wedi’u diweddaru gael eu cyhoeddi “erbyn diwedd y flwyddyn”, ac ar yr adeg honno bydd y terfynau cyflymder ar y cefnffyrdd yn cael eu hadolygu eto. Mae'n pwysleisio na fyddai'n briodol adolygu eto gan ddefnyddio'r canllawiau presennol.

Yn y cyfamser, mae'n awgrymu y dylai pryderon gael eu cyfarwyddo i’r bartneriaeth Gan Bwyll sy'n gyfrifol am orfodi terfynau cyflymder.

 

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Pasiodd y Senedd Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022  ym mis Mehefin 2022 i weithredu polisi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Bydd hyn yn cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig - y terfyn diofyn ar hyn o bryd yw 30mya. Er na fyddai hyn yn berthnasol i Glasfryn, mae'n rhan o'r sail ar gyfer yr adolygiad o’r canllawiau terfynau cyflymder y mae’r Dirprwy Weinidog yn cyfeirio atynt.

Rydych wedi ystyried ystod eang o ddeisebau  yn galw am newid terfynau cyflymder. Mae rhai yn galw am ostyngiadau cyflymder a / neu fesurau diogelwch ffyrdd eraill. Mae eraill yn gwrthwynebu cyflwyno terfynau cyflymder 20mya.

Codwyd y mater penodol hwn ynglŷn â’r A5 yng Nglasfryn yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Medi 2022 gan Llyr Gruffydd AS. Dywedodd yr Aelod:

Os teithiwch chi ar yr A5 o Fangor yr holl ffordd i'r Amwythig, Glasfryn yw'r unig bentref ar y siwrnai yna lle does yna ddim cyfyngiadau o safbwynt cyflymdra, er bod yna gyffyrdd prysur yn y pentref, er bod yna dai fetr neu ddau un unig o ymyl y ffordd.  Yn wir, yr hyn welwch chi pan fyddwch chi'n cyrraedd y pentref yw arwyddion yn nodi terfyn cyflymder cenedlaethol, sydd, i bob pwrpas, wrth gwrs, yn atgoffa ac yn annog gyrwyr i yrru 60 milltir yr awr, sy'n gwbl annerbyniol.

Tynnodd ymateb y Dirprwy Weinidog sylw at y newidiadau i’r polisi terfyn cyflymder a ddisgrifir uchod. Dywedodd:

…. rwy'n cydnabod bod enghreifftiau i'w cael lle mae'r gymuned yn teimlo bod cyflymder ffyrdd yn rhy gyflym, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried fel rhan o'n pecyn cyffredinol i newid dulliau teithio.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.